Swyddfa Brewin Dolphin yng Nghaerdydd yn cael achrediad iaith Gymraeg

News & comments

28 July 2022

Mae swyddfa Brewin Dolphin yng Nghaerdydd wedi cael ei chydnabod ag achrediad y Cynnig Cymraeg gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am ei hymrwymiad i’r iaith yng Nghymru. 

Dyfernir yr achrediad i gwmnïau sy’n integreiddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u strategaeth yn ogystal â chynnig gwasanaethau yn Gymraeg i gleientiaid. Mae swyddfa Brewin Dolphin yng Nghaerdydd wedi bod yn darparu cynigor i gleientiaid yn Gymraeg ers bron i 15 mlynedd, ac mae wedi gweld, pan fydd cleientiaid yn gallu cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf neu eu hail iaith, y bydd yn aml yn arwain at sgyrsiau gwell wrth drafod materion ariannol.

Meddai Geraint Hampson-Jones, pennaeth swyddfa Brewin Dolphin yng Nghaerdydd:Rydym mor falch ein bod wedi cael ein cydnabod gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am y gwasanaethau a ddarperir gennym i gleientiaid yn Gymraeg. Mae defnyddio’r Gymraeg yn hynod o bwysig i ni, a gobeithio y gallwn adeiladu ar yr achrediad hwn er mwyn parhau i helpu ein cleientiaid i gyflawni eu dyheadau ariannol.” 

Dywedodd Caroline Lake, pennaeth amrywiaeth, cynhwysiant a llesiant yn Brewin Dolphin: “Fel cwmni, rydym yn chwilio am ffyrdd o ehangu’r hyn rydym yn ei gynnig i gleientiaid. Mae achrediad y Cynnig Cymraeg yn gyflawniad hyfryd gan ein tîm yng Nghymru ac mae’n dangos eu hymrwymiad i’r iaith ac i’w cleientiaid.”

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price: “Dengys ymchwil bod y gallu i drafod yn Gymraeg wrth ddelio â materion busnes ac wrth drafod materion ariannol yn bwysig i gleientiaid. Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Brewin Dolphin am eu bod wedi ymateb i’r dyhead hwn, ac rydym yn eu llongyfarch am gael achrediad y Cynnig Cymraeg”.

GWYBODAETH I’R WASG
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Richard Janes richard.janes@brewin.co.uk / Ffôn: +44 (0) 20 3201 3343
Siân Robertson: Sian.Robertson@brewin.co.uk / Ffôn: +44 (0) 20 3201 3026
Chloe McFarlane: chloe.mcfarlane@brewin.co.uk / Ffôn: +44 020 3201 3490
Payal Nair payal.nair@brewin.co.uk  / ffôn: +44 (0) 20 3201 3342

NODIADAU I OLYGYDDION
Am Brewin Dolphin
Mae Brewin Dolphin yn ddarparwr gwasanaethau rheoli cyfoeth dewisol FTSE 250 yn y DU. Gyda chyfanswm o £51.7*  biliwn ar gael yn ein cronfeydd, rydym yn cynnig gwasanaeth rheoli cyfoeth wedi’i bersonoli sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n diwallu anghenion amrywiol ein cleientiaid unigol, elusennol a chorfforaethol.

Mae ein gwasanaethau’n amrywio o reoli buddsoddiad pwrpasol, dewisol i gynllunio ar gyfer ymddeoliad a buddsoddi treth-effeithlon. Drwy ganolbwyntio ar reoli buddsoddiad pwrpasol rydym wedi llwyddo i sicrhau twf sylweddol yng nghronfeydd ein cleientiaid, rydym bellach yn rheoli £45.2 * biliwn ar sail ddewisol.

Our intermediary business manages £17.0* billion of assets for over 1,700 advice firms either on a discretionary basis or via our Managed Portfolio Service, the MI Brewin Dolphin Voyager fund range and Sustainable MPS.

Mae cydberthnasau personol yn bwysig iawn i ni, a thrwy feithrin y cydberthnasau hyn rydym wedi llwyddo i sefydlu rhwydwaith o 33 o swyddfeydd ledled y DU, Jersey a Gweriniaeth Iwerddon, wedi’u staffio gan reolwyr buddsoddi a chynllunwyr ariannol cymwysedig. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o’r safon uchaf i’n cleientiaid, gan feddwl tua’r dyfodol hirdymor a chanolbwyntio’n llwyr ar anghenion ein cleientiaid.

I gael rhagor o wybodaeth am gaffaeliad arian parod argymelledig Brewin Dolphin gan RBC Wealth Management a gyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2022, ewch i: https://www.brewin.co.uk/group/investor-relations

*ar y 30 Mehefin
Disclaimers
The value of investments can fall and you may get back less than you invested.

Brewin Dolphin is authorised and regulated by the FCA (Financial Services Register reference number 124444).